Sut fydd unrhyw y byddaf i'n ei rhoi yn cael ei defnyddio?

Mae unrhyw ddata personol a gaiff ei roi wedi’i ddiogelu gan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni fydd unrhyw ddata’n cael ei rannu â phobl eraill. Ni fydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi’n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw ar gyfer datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd yn Sir y Fflint.

Nid yw’r ymgynghoriadau’n casglu gwybodaeth fel lleoliad penodol nac yn adnabod unigolion na’u gwybodaeth bersonol, gan eithrio casglu codau post a chyfeiriadau e-bost – ond mae rhoi’r wybodaeth hon yn ddewisol wrth gwblhau’r arolwg ar-lein neu fynd i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb.

Mae'r wybodaeth sydd wedi’i chasglu a'r atebion gan bob unigolyn yn ddienw ac yn cael eu cyflwyno’n rhan o'r data cyffredinol a gasglwyd ac felly golyga hyn na fydd modd adnabod ymatebion unigol.

Pryd gynhaliwyd yr ymgynghoriad oherwydd rydw i wedi’i fethu?

Bwcle
  • Cam 1
    • Ar-lein 20/01/2023 i 12/02/2023
    • Wyneb yn wyneb 23/03/2023 and 25/03/2023
  • Cam 2
    • Ar-lein 21/02/2025 i 10/03/2025
    • Wyneb yn wyneb 10/03/2025 i 14/03/2025
Cei Connah
  • Cam 1
    • Ar-lein 13/03/2024 i 01/04/2024
    • Wyneb yn wyneb 12/09/2024 and 14/09/2024
  • Cam 2
    • Ar-lein: 22/08/2025 – 09/09/2025
    • In-person: 08/09/2025 and 15/09/2025
Y Flint
  • Cam 1
    • Ar-lein 13/03/2024 i 01/04/2024
    • Wyneb yn wyneb 11/07/2024 and 13/07/2024
  • Cam 2
    • Ar-lein upcoming
    • Wyneb yn wyneb upcoming
Treffynnon
  • Cam 1
    • Ar-lein 20/01/2023 i 12/02/2023
    • Wyneb yn wyneb 14/03/2023, 16/03/2023 and 18/03/2023
  • Cam 2
    • Ar-lein 11/12/2024 i 23/12/2024
    • Wyneb yn wyneb 13/01/2025 i 17/01/2025
Yr Wyddgrug
  • Cam 1
    • Ar-lein 13/03/2024 i 01/04/2024
    • Wyneb yn wyneb 19/09/2024 and 21/09/2024
  • Cam 2
    • Ar-lein upcoming
    • Wyneb yn wyneb upcoming
Queensferry
  • Cam 1
    • Ar-lein 13/03/2024 i 01/04/2024
    • Wyneb yn wyneb 18/07/2024 and 20/07/2024
  • Cam 2
    • Ar-lein: 22/08/2025 – 09/09/2025
    • Wyneb yn wyneb 08/09/2025 and 15/09/2025
Shotton
  • Cam 1
    • Ar-lein 20/01/2023 i 12/02/2023
    • Wyneb yn wyneb 28/02/2023, 02/03/2023 and 04/03/2023
  • Cam 2
    • Ar-lein 28/10/2024 i 15/11/2024
    • Wyneb yn wyneb 09/12/2024 i 13/12/2024

Pam fod arnom angen Cynlluniau Creu Lleoedd?

Nid yw’r syniad o ‘greu lleoedd’ - y ffordd mae ein trefi wedi’u dylunio a sut mae gofod cyhoeddus yn cael ei siapio - yn newydd ond mae’n parhau i fod yn bwysig. Mae tref sy’n gweithredu’n dda o fudd i bawb ac mae’n cael effaith fawr ar ein hiechyd, lles ac amgylchedd yn ogystal â’n heffaith fasnachol a thwristiaeth. Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn gosod gweledigaethau ar gyfer trefi modern, bywiog lle mae’r secirau cyhoeddus, preifat a chymunedol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod trefi Sir y Fflint yn ffynnu.