Sut cyrhaeddom ni yma?

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' i nodi sut byddant yn nodi, cynllunio a darparu prosesau Creu Lleoedd ym mhob un o'u canol trefi. Mae hyn yn golygu rhoi anghenion canol trefi yn y dyfodol wrth wraidd polisïau, prosesau gwneud penderfyniadau a chamau gweithredu lleol.

Trwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cydlynol o gydweithio yng nghanol ein trefi, gan nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella’r ardal i drigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymhlith amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.
sml_queensferry_highst-18
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu y dylid gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer y 7 prif dref yn Sir y Fflint: Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton. 
Buckley Brunswick Road
Fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, mae’n ofynnol i Gyngor Sir y Fflint ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd a chynnwys pobl leol yn y broses o lunio cynnwys cynlluniau o’r fath mewn ymateb i anghenion pob ardal leol.   Mewn ymateb i hyn, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn ymgynghori â phobl leol yn ddigidol yn ogystal ag wyneb yn wyneb gyda dros 10,000 wedi ymgysylltu â nhw hyd yma, fel rhan o ddatblygiad ei Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi ledled Sir y Fflint. 
image
Dechreuodd y gwaith Greu Lleoedd yn 2023 ac mae ystod o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal gyda’r cyhoedd a budd-ddeiliaid: drwy arolygon ar-lein, digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ymgysylltu â busnesau. 
Image

Cam

Rhaglen waith 

1

Adolygu data, cwblhau ystod o archwiliadau, asesiadau ac ymweliad(au) safle

2

Dylunio ac ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus - cam 1 (ar-lein ac wyneb yn wyneb)

3

Dadansoddi data o ganfyddiadau’r ymgynghoriad

4

Llunio Cynllun Creu Lleoedd drafft

5

Ymgynghori â budd-ddeiliaid ar y Cynllun drafft - mewnol ac allanol i’r Cyngor

6

Dylunio ac ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus - cam 2 (ar-lein ac wyneb yn wyneb) 

7

Dadansoddi adborth a chwblhau Cynllun Creu Lleoedd 

8

Cwblhau’r Cynllun Creu Lleoedd - yn barod i’w adolygu a’i gymeradwyo

9

Datblygu cynllun gweithredu gyda phartneriaid i gyflawni’r Cynllun Creu Lleoedd